HYFFORDDIANT Y CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL

I ADDYSGWYR….

Dydd Mercher 24/1/24 (LLAWN!)

  • Stiwdiobox, Canolfan Yr Egin, Heol Y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ

  • 9:30yb - 15:00yp

  • £150 am yr hyfforddiant diwrnod. Bydd y pris yn cynnwys cinio, te a choffi.

Dydd Iau 14/3/24

  • Stiwdiobox, Canolfan Yr Egin, Heol Y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ

  • 9:30yb - 15:00yp

  • £150 am yr hyfforddiant diwrnod. Bydd y pris yn cynnwys cinio, te a choffi.

Dydd Iau 17/4/24 (LLAWN!)

  • Stiwdiobox, Canolfan Yr Egin, Heol Y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ

  • 9:30yb - 15:00yp

  • £150 am yr hyfforddiant diwrnod. Bydd y pris yn cynnwys cinio, te a choffi.

Telerau ac Amodau Gweithgareddau

Mae’n allweddol eich bod yn darllen, deall ac yn derbyn yr amodau canlynol cyn arwyddo'r Ffurflen Archebu Lle ar weithgaredd Stiwdiobox.

1.EICH TÂL : Eich Tâl yw cyfanswm tâl y weithgaredd - a fydd yn cael ei osod yn ôl y pen. Rhaid derbyn taliad/blaendal wrth archebu lle ar unrhyw gwrs hyfforddiant gan Stiwdiobox ble codir swm penodol i fynychu. Wrth lenwi'r Ffurflen Archebu rydych yn arwyddo cytundeb ac yn ymrwymo eich hun i dalu tâl yr hyfforddiant. 

2.TALIADAU : Unwaith mae’r Ffurflen Archebu wedi’i lenwi a’r blaendal/tâl wedi’i dalu mae’r archeb yn un gadarn. Ni ad-dalir y blaendal ac eithrio mewn sefyllfa ble mae Stiwdiobox yn gohirio neu ganslo’r weithgaredd.

3. NEWIDIADAU / DIDDYMU / CANSLO AR EICH RHAN CHI : Os ydych yn dymuno newid manylion yr archeb ar ôl talu’r blaendal, fe wnawn ein gorau i gyflawni’r newid, ond ni ellir gwarantu bod hynny’n bosibl. Rhaid rhoi cais ysgrifenedig ar e-bost ar gyfer unrhyw newidiadau. Codir tâl gweinyddol o £10:00 ar gyfer pob newid, yn daladwy ar adeg y newid. Fel arfer, ni fydd newidiadau yn bosibl llai na 48 awr cyn y digwyddiad. Os, am ba bynnag rheswm, na allwn gyflawni’r newid, mae’r archeb wreiddiol yn parhau yn gytundeb cadarn.

4. NEWIDIADAU NEU DDIDDYMU/CANSLO GWEITHGAREDD AR RAN STIWDIOBOX : Oherwydd natur y gweithgareddau, o dro i dro mae’n ofynnol arnom i wneud newidiadau ac yr ydym yn cadw’r hawl i wneud hynny. Ymdrechir i’ch hysbysu o’r rhain cyn gynted ag sy’n bosibl.