Cefnogi Sgiliau Iaith Gan Dyfu Defnydd Digidol O’r Gymraeg.

Creu.

Mae Stiwdiobox yn creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i gyflwyno, golygu a darlledu rhaglenni radio. Yn y dosbarth, mewn stiwdio bwrpasol neu ar leoliad, mae modd gwthio ffiniau digidol gan sicrhau proses hygyrch a di-ffwdan ar unrhyw leoliad. Mae mwy o bwyslais ar sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc y dyddiau yma ac mae datblygu sgiliau dwyieithog ymarferol yn bwysicach nag erioed. Mae’r gweithdai wedi eu hanelu at feithrin, mentora a datblygu sgiliau dwyieithog ymarferol.

E58768CF-B7EA-4BDF-8F0A-4A49E814917F.jpeg

Cyffroi.

Wrth geisio ysgogi cynulleidfaoedd newydd i ddefnyddio technoleg yn y Gymraeg mae Stiwdiobox yn sicrhau dulliau arloesol a gwahanol. Yn y cyd- destun presennol, a chyda’r posibilrwydd o fwy o gyfyngiadau yn y dyfodol, mae’r defnydd o dechnoleg a dulliau electronig o gyfathrebu yn mynd i fod yn gaffaeliad arbennig o effeithiol i gael disgyblion i arbrofi yn greadigol a’i gilydd gan roi cyfle i bob unigolyn i ddatblygu ei th/dalentau ei hun ynghyd â meithrin a chydweithio mewn gwaith pâr a grŵp.

Cenhadu.

Mae yma gyfle i gymaint o blant nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg gartref i fedru defnyddio a mireinio eu sgiliau ieithyddol gan wneud hynny mewn cyd-destun sydd nid yn unig yn gyffrous ond hefyd yn hynod atyniadol i bobl ifanc, gan roi gwefr a diddordeb oes i blant yn y Gymraeg ac yn ddigidol. Mae cysylltu’r holl elfennau positif hyn yn denu diddordeb, yn gosod heriau sy’n apelio, ac yn gallu arwain at drawsnewid yn y ffordd mae disgyblion yn gallu dysgu’n greadigol ac yn gallu dysgu mewn ffordd sy’n newid eu hagweddau at ddysgu am oes.

Eisiau offer i greu rhaglenni radio neu bodlediadau?

Cysylltwch am fanylion