Amdanom ni.
Sefydlwyd Stiwdiobox yn 2009 gan y darlledwr Marc Griffiths. Wedi ei leoli yng Nghanolfan S4C Yr Egin, mae’r pwyslais ar gynnig gwasanaethau dwyieithog o safon sy’n ysgogi, diddanu ac addysgu cynulleidfaoedd wrth ddefnyddio’r dechnoleg amlgyfrwng ddiweddaraf. O weithdai radio i orsafoedd radio parhaol, podlediadau a phrosiectau cymunedol – mae Stiwdiobox yn medru cynnig nifer o ffyrdd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae Stiwdiobox hefyd yn darparu gwasanaethau amrywiol i gleientiaid corfforaethol. Ymhlith rhai o gleientiaid Stiwdiobox mae Llywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru, S4C, BBC ynghyd â phrifysgolion ac ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru.